Penwythnos Cork
Fues draw i Cork am wicend, gan bo fi i ffwrdd o gwaith am chydig ddyddiau a meddwl swn i yn trio rwla gwahanol i Galway i fynd allan. Cychwynais amser cinio dydd Gwenar trwy drefi bychain sir Galway gan gynnwys tref Gort sydd yn rhyfeddol o le oherwydd tref fach ydi hi ond mae na tua 800(ella mwy) o Brasiliaid yn byw yno a mae rhanfwyaf ohonynyt yn gweithio mewn ffatri cyfagos. Mae'n rhyfadd gweld gymaint ohonyn nhw mewn un lle. Mae hyd yn oed un neu ddau siop Brasiliaidd yno hefyd.
Mi gymerodd y siwrna tua pedair awr a hanner ond efo llyfr i ddarllen a CD's i wrando doedd o ddim rhy ddrwg, dim byd oi gymharu a'r Trawscrwban efo stincar o hangofyr. Fuodd y bws trwy maes awyr Shannon hefyd am rhyw rheswm!!.
Rol cyrraedd yr hostel, es lawr i weld be oedd gan y lle i gynnig. Nifer o dafarndai da yno, mewn un gyda canu traddodiadol nes i gyfarfod a grwp o 9 au pair o'r Almaen a Awstria, doeddan nhw ddim i weld y gora o ffrindiau chwaith yr au pairs Almaeneg isio mynd ona i rwla arall a'r au pairs o Awstria isio aros. Chydig mwy o dafarndai a wedyn clwb, oedd yn lle yn orlawn.
Bach o gerddad rownd dydd Sadwrn, draw i'r bwcis(Fuodd bron mi guro pres mawr ar accumulator 20 ewro, Chelsea, Man U, Sunderland wedi curo yn hawdd ond bwcin Gretna yn chwalu pethau gan gael gem gyfartal). Ges i fwyd neis iawn yn pnawn Beef efo'r trimmings i gyd, ond aeth larwm tan y lle i ffwrdd a ambiwlans i nol rhyw ddyn oedd wedi daro yn wael, cradur.
Allan nos Sadwrn wedyn a mewn tafarn hen ffasiwn traddodiadol o'r enw Sine nes i gyfarfod a genod o Galway fues yn gweld ty nhw rhyw 4 mis yn ol, rom bach o sioc a deud y lleiaf, roedd un o ohonynyt o Cork felly dyma ddilyn nhw am noson. Es draw i'r Crane Bar, An Brog a Hib bar(Mae fama yn enwog nol un o'r genod cos os dydi'r boi hen ddim yn licio dy olwg di gei di ddim yfad yno, ma ateb ffon symudol yn drosedd difrifol ac un tro(yn ol y son) mi gafodd boi oedd efo annwyd hel ona oherwydd ei fod yn yfad wisgi poeth yn rhy araf).
Deffro bora Sul, a nol am Galway swn i yn cynghori ymweliad i Cork i unrhywun a peryg fydd rhaid mynd yno eto.

